Beth yw symptomau seicosis?

Seicosis yw ‘colli cyswllt gyda realaeth’. Mae’n cyfeirio’n benodol at:

Rhithweledigaethau: clywed, gweld, blasu neu arogli pethau na all pobl eraill ei wneud. Er enghraifft, clywed rhywun yn galw eich enw pan nad oes unrhyw un yno.

Coelion anghyffredin: Mae’n bosibl y byddwch chi’n credu’n gryf mewn rhywbeth nad yw eraill yn ei wneud. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch chi’n meddwl bod y llywodraeth yn sbïo arnoch chi, bod pobl am eich niweidio neu fod gennych bwerau arbennig.

Newidiadau wrth feddwl: gall meddyliau bob dydd gael eu cymysgu gan wneud brawddegau’n aneglur neu’n anodd eu deall. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio, dilyn sgwrs neu gofio pethau. Gall meddyliau ymddangos fel petaen nhw’n cyflymu neu’n arafu.

Teimladau ac ymddygiadau’n newid: gall teimladau newid heb unrhyw reswm. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo’n rhyfedd neu wedi eich torri i ffwrdd o’r byd. Gallwch deimlo newidiadau mewn hwyliau neu deimlo’n anghyffredin o gyffrous neu isel eich ysbryd. Gall hyn eich arwain at newid yn eich hwyliau neu deimlo’n anghyffredin o gyffrous neu isel eich ysbryd. Gall hyn arwain at brofi anawsterau mewn bywyd o ddydd i ddydd. Mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo llai o emosiwn neu’n dangos llai at y rhai o’ch cwmpas ac mae’n bosibl y byddwch chi’n colli diddordeb mewn pethau roeddech chi’n eu gwerthfawrogi a’u mwynhau cynt.


Pa mor gyffredin yw seicosis??

Bydd tua 3% o bobl yn cael profiad o seicosis o ryw fath yn ystod eu bywyd. Er y gall unigolyn brofi episod cyntaf o seicosis ar unrhyw adeg, mae hyn yn digwydd fel arfer rhwng 14 a 35 oed.


Beth sy’n achosi seicosis?

Nid oes unrhyw un achos i seicosis. Mae’n bosibl bod ffactorau geneteg, biolegol ac amgylcheddol (cymdeithasol a seicolegol) i gyd yn chwarae rhan. Mae’n bosibl y bydd pob unigolyn yn cael cyfuniad gwahanol o’r ffactorau hyn.

Cymdeithasol:
Yn aml, gall seicosis fod yn ymateb i bethau sy’n digwydd yn ein bywydau, yn arbennig digwyddiadau trawmatig neu ingol. Gallai’r rhain gynnwys perthnasoedd, anawsterau teuluol, camdriniaeth neu golled.

Camddefnyddio Sylweddau:
Gall defnyddio cyffuriau fel Cannabis, Amphetamine, neu sylweddau seicoactif newydd eraill fel ‘Spice’ gynyddu eich risg o ddatblygu seicosis.

Biolegol:
Os oes gennych aelod o’r teulu’n dioddef gan seicosis, rydych chi’n fwy tebygol o brofi’r cyflwr. Fodd bynnag, ni fydd y mwyafrif o bobl gyda pherthynas agos â seicosis, yn profi seicosis eu hunain. Gall amrywiol gemegolion yn yr ymennydd chwarae rhan mewn seicosis gan gynnwys Dopamine a Glutamine, a gall rhai o achosion a thriniaethau seicosis ddylanwadu ar y cemegolion hyn yn yr ymennydd.

Seicolegol:
Mae profiadau bywyd wedi’u cysylltu i sut rydyn ni’n profi ac yn dehongli pethau bob dydd (coelion am hunan, y byd ac eraill), camau emosiynol negyddol, a sgiliau ymdopi. Yn gynyddol, rydyn ni’n gweld y cysylltiad rhwng digwyddiadau bywyd a seicosis gyda’n profiadau yn y gorffennol yn affeithio ar sut rydyn ni’n profi ac yn dehongli pethau sy’n digwydd i ni nawr. Er enghraifft, gall rhywun sydd wedi’i fwlio fel plentyn ddatblygu coelion ei bod yn bosibl na ellir ymddiried mewn pobl eraill neu eu bod yn debygol o achosi niwed iddyn nhw. Gall y modd rydych chi’n gwneud synnwyr o bethau a dod i ganlyniadau hefyd gael eu haffeithio gan sut rydych chi’n teimlo. Er enghraifft, os ydych chi’n teimlo dan straen neu’n bryderus, gall y modd rydych chi’n edrych ar eraill neu ar y byd, fod yn wahanol o gymharu â phan rydych chi’n teimlo’n hapus ac wedi ymlacio.


 

Y Bwced Breguster Straen

Mae’r bwced hwn yn cynrychioli eich gallu i ymdopi â straen. Mae gan bobl sydd â gallu mawr i ymdopi â straen ac sy’n wydn iawn, ‘fwced mawr’. Mae maint eich bwced yn dibynnu ar lawer o bethau o’ch cefndir, fel cael eich bwlio neu eich cam-drin fel plentyn. Po fwyaf y problemau hyn o’ch cefndir sydd gennych, po fwyaf y bwced.

Pan fyddwch chi’n pryderu neu fod rhywbeth anodd iawn yn digwydd, mae’n llenwi’r bwced un wrth un. Efallai eich bod yn cael amser anodd yn y coleg neu yn y gwaith, yna rydych chi’n derbyn bil annisgwyl i’w dalu ac yna rydych chi’n clywed bod rhywun agos atoch yn sâl. Os bydd eich bwced yn mynd yn rhy llawn, bydd yn gorlifo a dyma pryd y gall profiadau anghyffredin ddigwydd. Er enghraifft, clywed lleisiau neu fod yn hynod bryderus bod pobl eraill eisiau achosi niwed i chi.

Mae’n bosibl lleihau’r straen yn eich bwced drwy fabwysiadu dulliau defnyddiol o ymdopi. Mae hyn fel torri tyllau yng ngwaelod y bwced. Mae gwahanol strategaethau ymdopi’n gweithio i bobl wahanol ond enghreifftiau da yw trafod eich problemau gydag eraill neu fynnu noson dda o gwsg.

Os byddwch chi’n ymdopi drwy wneud pethau nad sy’n dda i chi, yna gall hynny wneud y straen yn waeth. Mae hyn fel rhoi rhwystrau yn y tyllau yn eich bwced – pethau fel cymryd cyffuriau, yfed gormod o alcohol, neu gadw eich problemau i chi eich hun. Edrychwch ar y llun uchod a meddyliwch am ba bethau sy’n llenwi eich bwced chi a pha beth y gallech chi eu gwneud i ymdopi a gwneud rhai tyllau yn y bwced.


Camau seicosis

Mewn achos nodweddiadol o seicosis, gellir ystyried ei fod yn cymryd tri cham; the cam rhagarwyddol, cam aciwt a’r cam adfer.

Cam rhagarwyddol:
Mae’n bosibl y byddwch chi’n sylwi eich bod chi’n ei chael hi’n anodd dilyn eich arferion bob dydd arferol, fel ymolchi, gwisgo neu fynd i’r ysgol neu i’r gwaith. Mae’n bosibl y byddwch chi’n tynnu’n ôl oddi wrth eich teulu a’ch ffrindiau ac yn colli diddordeb yn eich hobïau. Yn ystod y cyfnod hwn, mae rhai pobl hefyd yn datblygu’r teimlad ‘nad yw pethau’n ymddangos yn iawn’ neu fod rhywbeth dieithr yn dechrau digwydd. Gall pobl hefyd ddechrau teimlo’n bryderus neu’n isel eu hysbryd. Gelwir hwn hefyd yn gam ‘mewn perygl’.
Er nad yw rhai pobl sy’n cael y profiadau hyn yn mynd ymlaen i ddatblygu seicosis, os ydyn nhw’n achosi trallod i chi neu’n affeithio ar eich bywyd, yna dylech ystyried mynd at eich Meddyg Teulu (MT) neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi fel rhiant neu diwtor.

Cam aciwt:
Yn ystod y cam hwn, byddech chi’n teimlo symptomau seicosis fel rhithweledigaethau, coelion anghyffredin a newidiadau yn eich ffordd o feddwl. Dyma’r cam lle byddwch chi’n fwyaf tebygol o gael eich atgyfeirio ar y gwasanaethau iechyd meddwl neu at Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar fydd yn trafod opsiynau triniaeth gyda chi. Mae’n bosibl hefyd y gallwch atgyfeirio eich hun neu bod eich teulu’n gwneud hyn yn uniongyrchol at Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar.

Cam adfer:
Yn ystod y cam hwn, mae pobl yn dechrau gwella, yn profi llai o’r symptomau trallodus ac yn dechrau ail sefydlu perthnasoedd gyda ffrindiau a theulu. Hwn hefyd yw’r amser y mae pobl yn ystyried eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel gwaith, addysg a hyfforddiant. Bydd y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar yn darparu cefnogaeth barhaus drwy gydol y cyfnod hwn.

Mae’n bwysig gwybod bod y mwyafrif o bobl yn gwella’n dda o seicosis


Pryd ddylwn i geisio help?

Dylech ofyn am help gan eich MT ar unwaith os ydych chi’n bryderus am eich iechyd meddwl. Po gyntaf y byddwch chi’n gofyn am help, gorau oll. Mae’n bosibl y bydd eich MT yn gofyn rhai cwestiynau er mwyn gallu penderfynu beth sy’n achosi eich seicosis. Mae’n bosibl y bydd yn eich atgyferio at arbenigwr iechyd meddwl i gael asesiad pellach a thriniaeth.


Pa help sydd ar gael?

Bydd y mwyafrif o bobl yn gweld eu bod angen help gan weithiwr proffesiynol i ddelio â’u seicosis.
Ar ôl yr asesiad cyntaf, mae’r timau’n darparu cefnogaeth am hyd at dair blynedd i unigolion sy’n dioddef gan symptomau seicosis a’u teuluoedd. Mewn rhai ardaloedd, mae’r timau’n gweithio ochr yn ochr â CAMHS – Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (14-16 oed).

Bydd yr asesiad a’r gefnogaeth fyddwch yn eu derbyn yn dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir yn eich ardal – cliciwch yma i gael hyd i’ch gwasanaeth agosaf.

Yn gyffredinol, gall hyn gynnwys:

  • Helpu unigolion a theuluoedd i gynyddu eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd
  • Gostwng y lefel o drallod a achosir gan brofiadau anghyffredin
  • Darparu triniaeth a therapïau sydd wedi’u profi e.e. monitro iechyd corfforol.
  • Therapi Teulu Ymddygiadol (BFT), Meddyginiaethau a Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBTp) .
  • Blaenoriaethu adferiad personol a dychwelyd yn gyflym i rôl werthfawr a pherthnasoedd cymdeithasol .