Chwalu mythau NOT FINISHED

thinking woman wearing glasses and orange top

Mae yna lawer o fythau a sibrydion am beth yw seicosis a pham mae pobl yn profi symptomau.

Nod yr adran hon yw herio rhai o’r syniadau hynny.

Gwir neu anwir?

Nid yw pobl â seicosis byth yn gwella

Anwir

Mae llawer o bobl sy’n profi seicosis yn gwella ac yn mynd ymlaen i fyw bywydau llawn a hapus. I rai, mae hyn yn golygu na fyddant byth yn profi seicosis eto. I eraill, gellir disgrifio seicosis fel “digwyddiad”. Mae hyn yn golygu y bydd adegau pan fydd y seicosis yn bresennol, ac eraill pan nad yw’n bresennol. Dros amser mae’n bosibl dysgu sut i gael rheolaeth dros y profiadau hyn er mwyn lleihau unrhyw broblemau y gallant fod yn eu hachosi. Mae adfer yn daith unigol iawn a bydd y ffordd orau o gefnogi rhywun ar y daith hon yn amrywio o unigolyn i unigolyn.  

Mae pobl â seicosis yn beryglus

Anwir

Nid yw’r mwyafrif helaeth o bobl â seicosis yn fwy peryglus nag unrhyw un arall rydych chi’n ei adnabod. Yn anffodus, mae seicosis a thrais yn aml yn cael eu cysylltu â’i gilydd yn y cyfryngau. Yn ôl pob tebyg mae hyn oherwydd, pan fydd pobl yn cael profiadau seicotig, gallant fynd i deimlo’n ofnus iawn ac ymddangos eu bod yn gweithredu mewn ffyrdd rhyfedd. Efallai y byddant yn siarad yn ôl i leisiau yn uchel, neu’n ymddangos yn wyliadwrus iawn o bobl eraill. Mae’r ymddygiadau hyn yn gwneud i bobl eraill deimlo’n wyliadwrus gan eu bod yn anodd eu deall. Fodd bynnag, i leiafrif bach iawn o bobl, gall eu profiadau fod mor frawychus fel y gallant deimlo’r angen i amddiffyn eu hunain a gall hyn eu harwain i gymryd pethau allan ar bobl eraill. Gall hyn arwain at godi ofn ar aelodau o’r teulu a ffrindiau.   

Mae pobl â seicosis yn eithriadol o greadigol, artistig neu ddeallus

Anwir

Er bod rhai pobl â seicosis yn hynod o artistig, creadigol a deallus, nid oes tystiolaeth gref eu bod yn fwy felly na phobl heb seicosis. Wedi dweud hynny, mae llawer o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn canfod y gall celf, barddoniaeth a gweithgareddau creadigol eraill eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd o fynegi eu meddyliau a’u hemosiynau.

Mae’n rhaid i bobl â seicosis gymryd meddyginiaeth am weddill eu hoes

Anwir

Mae’r ffordd y mae pobl â seicosis yn defnyddio meddyginiaeth yn amrywio’n fawr. Mae rhai pobl byth yn cymryd unrhyw feddyginiaeth, ac mae eraill yn ei gymryd am gyfnod byr o amser ac yna’n stopio pan fyddant yn gwella. Mae angen presgripsiwn parhaus ar eraill, sy’n helpu i atal symptomau rhag dychwelyd.  

Mae seicosis yn ganlyniad i rianta gwael

Anwir

Nid oes tystiolaeth bod seicosis yn cael ei achosi gan ymddygiad rhieni. Fodd bynnag, mae llawer o rieni yn parhau i roi’r bai arnynt eu hunain ac yn poeni bod eraill hefyd yn eu beio. Mae hwn yn adwaith naturiol a chyffredin iawn ond gall fod yn ofidus iawn. Mae’n adwaith arferol mewn rhieni ym mhedwar ban byd ac mae’n ganlyniad uniongyrchol i’n hangen i amddiffyn ein plant. Nid yw seicosis yn cael ei achosi gan deulu na ffrindiau, ond gallant chwarae rhan allweddol wrth gefnogi rhywun drwy’r broses o adfer ar ei ôl.    

Nid oes unrhyw beth all unrhyw un ei wneud i helpu rhywun â seicosis

Anwir

Mae llawer y gall teulu a ffrindiau ei wneud i helpu, a bydd y pecyn cymorth hwn yn amlinellu’r rhai allweddol. Mae yna hefyd nifer o driniaethau effeithiol ar gael gan gynnwys meddyginiaeth a therapïau seicolegol. Disgrifir y rhain yn fanylach yn y modiwl opsiynau triniaeth.  

Gelwir pobl â seicosis yn seicopathau

Anwir

Yn aml ystyrir bod seicopath yn rhywun sy’n cymryd yr hyn maen nhw ei eisiau gan eraill heb edifar o gwbl a heb ddangos unrhyw empathi am sut y gall pobl eraill deimlo. Nid oes gorgyffwrdd â seicosis – mae’n anffodus bod y termau yn debyg ac felly bod pobl yn drysu rhyngddynt. Mewn gwirionedd, mae pobl â seicosis yn aml yn sensitif iawn ac yn deall pobl eraill.   

Mae pobl â seicosis yn wallgof

Anwir

Weithiau gall pobl â seicosis ymddangos fel pe baent yn gweithredu mewn ffyrdd rhyfedd. Fodd bynnag, nid yw’r ymddygiad hwn yn “wallgof” os ydych chi’n deall beth sy’n digwydd y tu mewn i’w pen. Er enghraifft, nid yw pobl â seicosis yn siarad â nhw eu hunain, ond yn gyffredinol maent yn siarad yn ôl â lleisiau y maen nhw’n eu clywed yn eu pen ond sy’n ymddangos yn real iawn iddyn nhw. Nid yw gweithredu mewn ffordd amheus neu ofnus yn wallgof os ydych chi wir yn credu bod rhywun wir yn ceisio gwneud niwed i chi. Drwy ddeall sut beth yw seicosis i’r unigolyn sy’n ei brofi, mae ymddygiad sy’n gallu ymddangos yn wallgof yn dod yn normal iawn.  

Mae pobl â seicosis yn ddiog

Anwir

Gall rhai o symptomau seicosis gynnwys bod â chymhelliant isel a diffyg egni, a allai ymddangos fel diogi i rai pobl. Weithiau maent hefyd yn profi sawl cyflwr iechyd meddwl, fel iselder, hunan-barch isel, colli hyder neu gamddefnyddio sylweddau.

Ffynhonnell: Pecyn Cymorth REACT

a young black man smiles at the camera on a busy street, he's wearing a black shirt with colourful shapes and a denim jacket

Straeon am adfer

Mae Sophie yn rhannu ei stori am brofi seicosis pan symudodd i ffwrdd ar gyfer y brifysgol.

Fe wnes i adael fy nghwrs prifysgol a dychwelyd adref ar y pryd gan nad oeddwn i’n gallu ymdopi, ond fe wnaeth y tîm ymyrraeth gynnar mewn seicosis fy helpu i gadw cysylltiadau â’r brifysgol ac rwyf bellach yn ystyried opsiynau ar gyfer dychwelyd i’m hastudiaethau y flwyddyn nesaf. Ni allaf ddychmygu ble byddwn i nawr pe na bawn i wedi cael fy nghyfeirio at y gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis.

Sophie, 23