Deall Seicosis

two men and a woman sitting outside having a serious conversation

Beth yw seicosis?

Mae seicosis yn broblem iechyd meddwl sy’n achosi i bobl brofi neu ddehongli pethau’n wahanol i’r rhai o’u cwmpas. Cyfeirir ato weithiau fel colli cysylltiad â realiti.

Yn aml cyfeirir at brofi symptomau seicosis fel cael digwyddiad seicotig. Efallai y bydd unigolyn yn ei brofi unwaith, yn cael digwyddiadau dro ar ôl tro, neu’n byw gydag ef y rhan fwyaf o’r amser.

Mae profiad pawb o seicosis yn wahanol ond mae rhai arwyddion a symptomau a all fod yn debyg.

Y profiadau mwyaf cyffredin o seicosis

  • Rhithweledigaethau Dyma lle mae unigolyn yn clywed, yn gweld, yn teimlo, yn arogli neu hyd yn oed yn blasu pethau nad ydyn nhw yno. Clywed lleisiau sydd fwyaf cyffredin.
  • Credoau anarferol: Dyma lle mae gan unigolyn gredoau cryf nad yweraill yn eu rhannu ag ef. Cyfeirir at hyn weithiau fel ‘rhithdyb’; rhithdyb cyffredin yw pan fo rhywun yn credu bod cynllwyn i’w niweidio.
  • Meddwl a siarad mewn ffordd anhrefnus: Gall fod yn anodd dilyn trefn meddwl neu leferydd rhywun.
  • Symptomau negyddol: Mae hyn yn disgrifio rhywbeth sydd wedi’i dynnu i ffwrdd o gyflwr meddyliol cyffredinol unigolyn, fel colli cymhelliant neu ddiddordeb. Gall unigolion dynnu’n ôl oddi wrth y rhai o’u cwmpas, efallai y bydd gostyngiad mewn presenoldeb ac ymrwymiad i’r gwaith, yr ysgol neu’r coleg, ac efallai y byddant yn ymddangos yn ddiemosiwn.

Gall y pethau hyn achosi gofid ac effeithio ar fywyd dyddiol unigolyn fel mynychu coleg, gweld ffrindiau neu gysgu.

Mae’n bwysig cofio bod modd trin seicosis ond gall yr arwyddion cynnar ohono fod yn annelwig a phrin y byddai rhywun yn sylwi arnynt. Os nad yw rhywbeth yn ymddangos yn iawn yna siaradwch â’ch meddyg teulu neu eich gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis lleol (EIP).

Mae ymyrryd yn gynnar yn golygu bod cleifion yn adfer yn gyflwymach a bod effaith hirdymor y cyflwr arnynt yn llai.

Mae llawer o bobl yn mynd ymlaen i adfer yn llawn.


Pa mor gyffredin yw seicosis?

Bydd tua 3% o bobl yn cael profiad seicotig, o ryw fath, yn ystod eu hoes. Er y gall unigolyn brofi ei ddigwyddiad cyntaf o seicosis ar unrhyw oedran, mae hyn fel arfer yn digwydd rhwng 14 a 35 oed.

Beth sy’n achosi seicosis?

Nid oes un achos hysbys o seicosis. Mae’n debygol bod ffactorau genetig, biolegol ac amgylcheddol (cymdeithasol a seicolegol) i gyd yn chwarae rhan. Mae’n debyg y bydd gan bob unigolyn gyfuniad gwahanol o’r ffactorau hyn.

  • Cymdeithasol:
    Yn aml gall seicosis fod yn ymateb i bethau sy’n digwydd yn ein bywydau, yn enwedig digwyddiadau sy’n arbennig o drawmatig neu’n peri straen. Gallai’r rhain gynnwys perthnasoedd, anawsterau teuluol, cam-drin neu golled.
  • Camddefnyddio sylweddau:
    Gall defnyddio cyffuriau fel canabis, amffetamin, neu sylweddau seicoweithredol newydd eraill fel ‘spice’ gynyddu eich risg o ddatblygu seicosis.
  • Biolegol:
    Os yw aelod o’r teulu â seicosis, rydych chi’n fwy tebygol o brofi’r cyflwr eich hun. Fodd bynnag, ni fydd mwyafrif y bobl sydd â pherthynas agos â seicosis yn profi seicosis eu hunain. Gall gwahanol gemegionu yn yr ymennydd chwarae rhan mewn seicosis, gan gynnwys dopamin a glwtamad, a gall rhai o achosion a thriniaethau seicosis ddylanwadu ar y cemegion hyn yn yr ymennydd.
  • Seicolegol:
    Mae profiadau bywyd yn gysylltiedig â’r ffordd yr ydym yn profi ac yn dehongli’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd (credoau y person am ei hun, y byd, ac eraill), camau emosiynol negyddol, a sgiliau ymdopi.

Yn gynyddol rydym yn gweld bod cysylltiad rhwng digwyddiadau bywyd a seicosis, bod ein profiadau yn y gorffennol yn effeithio ar sut rydym yn profi ac yn dehongli pethau sy’n digwydd i ni nawr. Mae’n bosibl weithiau bod seicosis yn tarddu o rywbeth – gall digwyddiadau yn y gorffennol effeithio ar y ffordd yr ydych chi’n profi pethau a all ddigwydd ar hyn o bryd. Er enghraifft, gallai rhywun a gafodd ei fwlio pan oedd yn blentyn ddatblygu credoau y gallai pobl eraill fod yn annibynadwy neu eu bod yn debygol o achosi niwed iddynt.

Gall y ffordd yr ydych chi’n teimlo effeithio ar y ffordd rydych chi’n gwneud synnwyr o bethau a’r ffordd yr ydych yn dod i gasgliadau hefyd. Er enghraifft, os ydych chi’n teimlo dan straen neu’n bryderus, gall y ffordd rydych chi’n edrych ar eraill neu’r byd fod yn wahanol o gymharu ag adegau pan fyddwch chi’n teimlo’n hapus ac yn hamddenol.

Y bwced bregusrwydd straen

Y bwced bregusrwydd straen. Mae’r bwced hwn yn cynrychioli’ch gallu i ymdopi â straen. Mae gan bobl sydd â gallu mawr i ymdopi â straen ac sy’n wydn iawn ‘fwced fawr’. Mae maint eich bwced yn amrywio ac yn cael ei ddylanwadu gan eich bioleg a’ch profiadau fel plentyn. Er enghraifft, os cawsoch amser anodd pan oeddech chi’n blentyn, efallai oherwydd bwlio neu gam-drin, yna efallai y bydd eich bwced a’ch trothwy ar gyfer ymdopi â straen yn is na rhywun arall nad oedd wedi cael y profiadau hyn. Po uchaf yw’r bregusrwydd, y lleiaf o ‘le’ sydd yn eich bwced ar gyfer straen.

A graphic showing two buckets - they represent the build and release of stress how this keeps our vulnerability in check. One bucket isn't overflowing as it has a tap on the side whichis steadily dropping but the other has flooded as the tap if broken and there is no release.

Pan fydd rhywbeth yn peri  straen ichi neu rywbeth yn eich poeni, mae’r bwced yn dechrau llenwi un pryder ar y tro. Efallai eich bod chi’n cael amser anodd yn y coleg neu’r gwaith, ac yna’n cael bil annisgwyl i’w dalu, ac yna’n darganfod bod rhywun agos atoch yn sâl.

Os yw’ch bwced yn mynd yn rhy lawn yna mae’n gorlifo a dyma pryd y gall profiadau anarferol ddigwydd. Er enghraifft, clywed lleisiau neu ddod yn hynod o bryderus bod pobl eraill eisiau eich brifo.

Mae’n bosibl lleihau’r straen yn eich bwced drwy ddefnyddio ffyrdd defnyddiol o ymdopi. Byddai hyn fel agor y tap.

Mae gwahanol strategaethau ymdopi yn gweithio i wahanol bobl, ond mae enghreifftiau da yn cynnwys siarad am eich problemau gydag eraill neu gael noson dda o gwsg.

Gall rhai pethau wneud y straen yn waeth. Mae hyn fel blocio’r tyllau yn eich bwced. Mae ffyrdd anfuddiol o ymdopi yn cynnwys cymryd cyffuriau neu yfed gormod o alcohol.

Ffordd arall o feddwl am y model hwn yw’r gêm plant ‘Buckaroo’ – po fwyaf yr eitemau yr ydym yn ychwanegu at yr asyn, y mwyaf o straen y mae’n ei deimlo ac yn y pen draw ni all ymdopi rhagor.

I gael awgrymiadau a syniadau ar ffyrdd defnyddiol o ymdopi, a lles yn gyffredinol, edrychwch ar y dudalen Adnoddau


Awtistiaeth, ADHD, a phroblemau iechyd meddwl

Mae ymchwil yn dweud wrthym fod pobl ag awtistiaeth ac anhwylder gorfywiogrwydd diffyg sylw (ADHD) yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl.

Bydd siarad â chlinigwr am ddiagnosis presennol neu os oes symptomau sy’n awgrymu awtistiaeth neu ADHD yn hwyluso’r prosesau o ddatblygu cynllun gofal a thriniaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis sy’n canolbwyntio ar y claf ac yn seiliedig ar anghenion.

Gall pobl ag awtistiaeth ryngweithio ag eraill yn wahanol a bod ag anghenion synhwyraidd gwahanol, ac mae angen mwy o gysondeb a threfn arnynt. Mae pobl ag ADHD yn tueddu i fod yn aflonydd, yn cael anawsterau canolbwyntio ac yn gwneud penderfyniadau byrbwyll.

Er nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, gall llawer o’r symptomau hyn effeithio ar feddyliau, teimladau ac ymddygiadau unigolyn. Felly weithiau mae’n anodd eu gwahanu oddi wrth symptomau seicosis a chyflyrau iechyd meddwl eraill.

Yn ystod cyfnod asesu ymyrraeth gynnar mewn seicosis, bydd y tîm yn sgrinio am symptomau awtistiaeth, ADHD ac anawsterau dysgu. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y gofal cywir a’r driniaeth gywir yn cael eu darparu i’r unigolyn.

Bydd yr asesiad hwn hefyd yn helpu i lywio unrhyw addasiadau rhesymol y mae angen eu rhoi ar waith.

Rhagor o wybodaeth

Mae cefnogaeth ac arweiniad ynghylch awtistiaeth i’w gweld ar wefan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol. Mae gwybodaeth am opsiynau cymorth lleol a chenedlaethol a sut i gysylltu â theuluoedd eraill sydd â phrofiadau tebyg ar gael ar wefan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol .

Gellir dod o hyd i adnoddau a gwybodaeth am opsiynau cymorth a thriniaethau sydd ar gael ar gyfer ADHD ar wefan Sefydliad ADHD.

Mae gan Young Minds dudalen sy’n ymdrin yn benodol ag ADHD ac iechyd meddwl.


Cyfnodau seicosis

Mewn achos nodweddiadol o seicosis, gellir ystyried ei fod yn cynnwys tri chyfnod, sef y cyfnod rhagarwyddion, y cyfnod acíwt a’r cyfnod adfer.

A welsh language map of the healthboards in Wales. The map is white with the healthboards outlined in different colours and corresponding coloured titles

Y cyfnod rhagarwyddion neu Prodrome

Cyfeirir at yr arwyddion neu’r symptomau cynnar sy’n dynodi dechrau salwch weithiau fel y cyfnod rhagarwyddion (neu’r ‘prodromal period’ yn Saesneg).

Mae symptomau rhagarwyddol nodweddiadol yn cynnwys newidiadau mewn meddyliau, teimladau ac ymddygiadau. Mae’n bwysig cofio, os yw rhywun yn profi symptomau rhagarwyddol, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddant yn datblygu i fod yn bennod acíwt o seicosis. Mae profiadau pawb yn wahanol a byddant yn profi symptomau i raddau gwahanol. Mae rhai pobl yn profi llawer o symptomau amlwg ac efallai na fydd rhai yn profi unrhyw symptomau rhagarwyddol amlwg o gwbl. Fodd bynnag, yn aml ceir y teimlad annelwig nad yw “rhywbeth yn hollol iawn”.

Yn aml, yn ystod y cyfnod rhagarwyddion, bydd symptomau’n fyrhoedlog ac  efallai’n anodd sylwi arnynt, ac mae’n bosibl y byddant yn fwy amlwg i ffrindiau neu deulu nag i’r unigolyn eu hun. Oherwydd y gall symptomau rhagarwyddol fod yn anodd eu gweld, yn aml rhoddir diagnosis o’r cyfnod rhagarwyddion ar ôl i’r salwch ddatblygu i gam 2, sef y cyfnod acíwt.

Y cyfnod acíwt

Yn ystod y cam hwn, gellir categoreiddio symptomau fel symptomau ‘cadarnhaol’ a ‘negyddol’.

Mae symptomau cadarnhaol yn ychwanegu rhywbeth at gyflwr meddyliol cyffredinol unigolyn, fel rhithweledigaethau neu anhwylder meddwl.

Ystyrir bod symptomau negyddol yn cymryd rhywbeth i ffwrdd o gyflwr meddyliol cyffredinol person, er enghraifft ei gymhelliant i gymryd rhan mewn gweithgareddau, peidio â gofalu am ei hun neu achosi problemau gyda’i cof a’i sylw.

Gall triniaeth arwain at leihau  symptomau cadarnhaol. Fodd bynnag, mae’n fwy cyffredin i rai symptomau negyddol barhau ar ryw ffurf neu’i gilydd.

Y cyfnod adfer

Bydd y cam hwn yn yn wahanol i wahanol bobl. Ond i bawb, fe’i nodweddir gan adennill ymdeimlad o reolaeth dros y seicosis, a sefyllfa lle nad yw symptomau’n rhan flaenllaw o’u bywyd o ddydd i ddydd mwyach. Wrth ganolog i wasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis yw’r gred bod adfer ar ôl seicosis nid yn unig yn bosibl ond yn gyraeddadwy.

Mae angen gweithio yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau bod unigolion a’u rhwydwaith cymorth yn ymwybodol o symptomau a’r hyn sy’n achosi iddynt amrywio.

Gellir cyflawni hyn drwy ddysgu am y salwch, nodi arwyddion rhybuddio cynnar, deall yr opsiynau triniaeth sydd ar gael, archwilio strategaethau ymdopi a datblygu cynlluniau lles personol.

Mae’n bwysig gwybod

  • bod adfer yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb
  • bod y rhan fwyaf o bobl yn gwneud adfer yn dda ar ôl seicosis

Ceisio cymorth

Dylech geisio cymorth gan eich meddyg teulu ar unwaith os oes gennych bryderon am eich iechyd meddwl. Po gynharach y byddwch chi’n ceisio cymorth y gorau. Efallai y bydd eich meddyg teulu yn gofyn nifer o gwestiynau i chi er mwyn ei helpu i benderfynu beth sy’n achosi’ch seicosis. Mae’n bosibl y bydd yn eich cyfeirio at arbenigwr iechyd meddwl i gael asesiad a thriniaeth bellach.