Iechyd corfforol

a young man wearing a tshirt and jeans and an orange back pack walking in the woods on a sunny day

Mae ein hiechyd meddwl a chorfforol yn gysylltiedig â’i gilydd – ni allwn ddylanwadu ar y naill heb effeithio ar y llall.

Mae’n bwysig deall sut y gall profi seicosis effeithio ar iechyd corfforol a pha mor hanfodol bwysig yw gofalu amdanom ein hunain.

Un o’r ymyriadau allweddol a ddarperir gan wasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis yw gweithio gydag unigolion i gefnogi gwelliannau mewn iechyd corfforol a llesiant.

Mae gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn cynnig gwasanaethau sgrinio ac ymyriadau iechyd corfforol fel rhan o ofal a thriniaeth unigolyn. Drwy fonitro iechyd corfforol, gall y tîm weithio gyda’r unigolyn i hyrwyddo llesiant corfforol a chynnig cymorth pryd bynnag fo’i angen er mwyn atal problemau iechyd corfforol tymor hwy rhag datblygu.

Mae clinigau iechyd corfforol ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn cynnig apwyntiad sgrinio cychwynnol i gleifion ar ôl iddynt gael eu derbyn i’r gwasanaeth ac yna’n cynnig archwiliadau dilynol rheolaidd i fonitro:

  • Pwysau
  • Taldra
  • Pwls a phwysedd gwaed
  • Lefelau glwcos a cholesterol yn y gwaed
  • Iechyd y galon gan ddefnyddio peiriant ECG

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen wybodaeth hon.

Os yw’r unigolyn yn bodloni’r trothwy ar gyfer ymyrraeth drwy unrhyw un o’r mesuriadau hyn, bydd y gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn trefnu archwiliad pellach, atgyfeirio ymlaen neu ddarparu pecyn ymyrraeth penodol.ration, onward referral or provide a specific intervention package.

Rhaglen Addysg Ffordd o Fyw i Gyflawni Potensial (LEAP)

Mae gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn cynnig rhaglen Addysg Ffordd o Fyw i Gyflawni Potensial (LEAP) i bob unigolyn sydd o dan wasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis yng Nghymru, ni waeth beth fo canlyniadau eu profion sgrinio.

Mae’r rhaglen LEAP yn cael ei chyflwyno fel sesiwn 90 munud unwaith yr wythnos am chwe wythnos ac mae’n canolbwyntio ar hyrwyddo iechyd corfforol a ffyrdd iach o fyw drwy gynnig:

  • Sesiynau sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y grŵp neu’r unigolyn
  • Cyngor ymarferol ar reoli iechyd corfforol unigol
  • Addysg ynghylch ffyrdd iach o fyw
  • Cefnogaeth ynghylch gosod nodau
  • Amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ymarfer corff, bwyta’n iach, diogelwch ar-lein, rhoi’r gorau i ysmygu, sylweddau, strategaethau ymdopi, sgil-effeithiau meddyginiaeth ac arferion dyddiol
  • Mynediad at staff sydd â chefndir proffesiynol amrywiol
  • Cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a’r rhaglen therapi antur

Mae cyfres o daflenni ffeithiau a phosteri sy’n tynnu sylw at negeseuon allweddol ac awgrymiadau gorau ar gael i’w lawrlwytho yma.

Darllenwch y papur sy’n archwilio’r gorgyffwrdd rhwng iechyd corfforol a therapi antur:

Cyfres Pump ymyrraeth gynnar mewn seicosis – Rhaglen Therapi Antur ac Iechyd CorfforolTherapy Programme and Physical Health