Cael gafael ar gymorth

Help mewn argyfwng

I gael cymorth iechyd meddwl brys i chi’ch hun neu i rywun annwyl ffoniwch 111 a dewis opsiwn 2.

Ar gael 24 awr y dydd, mae’r rhif yn rhad ac am ddim i’w alw o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd ar ôl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ffonio GIG 111 a gwasgu 2

Os ydych chi’n poeni bod risg uniongyrchol i fywyd, gallwch gysylltu â’r heddlu drwy ffonio 999. Gallwch hefyd fynd i’ch adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf.

Mae’r Samariaid ar gael ar 116 123 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwch ffonio am ddim ar unrhyw ffôn.

Dewch o hyd i gymorth yn eich ardal

Mae pob rhanbarth bwrdd iechyd yng Nghymru yn darparu gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis. Mae rhywfaint o amrywiad yn yr hyn a gynigir. Cymerwch olwg ar y dolenni i gael rhagor o wybodaeth.


Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Ar hyn o bryd mae tîm Aneurin Bevan yn cefnogi pobl rhwng 14 a 35 oed sy’n profi symptomau cynnar seicosis neu sydd wedi profi symptomau seicotig heb eu trin o fewn y tair blynedd diwethaf.

Derbynir atgyfeiriadau gan feddygon teulu, gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol, gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl ac unrhyw un sy’n pryderu am gyflwr meddyliol unigolyn.

01633 238800
ABB.EISReferrals@wales.nhs.uk

Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.

Tudalen we gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis y byrddau iechyd: Gwasanaethau arbenigol — Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Ar hyn o bryd, mae tîm Betsi Cadwaladr yn cefnogi pobl rhwng 16 a 35 oed sy’n dioddef symptomau cynnar o seicosis. Derbynnir atgyfeiriadau gan feddygon teulu, gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol a gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl.

03000 849730

Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.


Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae tîm Caerdydd a’r Fro ar hyn o bryd yn cefnogi pobl rhwng 14 a 25 oed sy’n dioddef symptomau cynnar o seicosis neu sydd mewn perygl o ddatblygu seicosis. Rydym yn wasanaeth sy’n gweithio ochr yn ochr â Barnardo’s i gefnogi pobl ifanc. Derbynnir atgyfeiriadau gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd pan fo gan yr unigolyn gydlynydd gofal. Ar hyn o bryd nid ydym yn derbyn pobl sy’n –atgyfeirio eu hunain.

02921 824227

Headroom.Cav@wales.nhs.uk

Tudalen we gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis Barnardo: HEADROOM – Gwasanaeth Seicosis Digwyddiad Cyntaf (FEPS)


Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Mae tîm Cwm Taf Morgannwg wedi’i leoli yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar. Mae’r tîm yn aml-broffesiynol ac yn cefnogi pobl rhwng 14 a 35 oed sy’n dioddef symptomau cynnar seicosis neu sydd wedi profi symptomau seicotig heb eu trin o fewn y tair blynedd diwethaf.

Darperir ein cefnogaeth i’r rhai sy’n byw yn ardal Rhondda Cynon Taf a Merthyr. Ar hyn o bryd mae tîm gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cefnogi trigolion Pen-y-bont ar Ogwr.

Derbynnir atgyfeiriadau gan feddygon teulu, gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol a gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl. Ar hyn o bryd nid ydym yn derbyn pobl sy’n –atgyfeirio eu hunain.

01443 715100

Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.

Tudalen we gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis y byrddau iechyd: Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis — Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Ar hyn o bryd mae tîm Hywel Dda yn cefnogi pobl rhwng 14 a 25 oed sy’n dioddef symptomau cynnar o seicosis neu sy’n ymgyflwyno â ‘chyflwr meddyliol sy’n golygu eu bod mewn perygl’. Rydym yn wasanaeth sy’n gweithio ochr yn ochr â MIND i gefnogi pobl ifanc.

Derbynnir atgyfeiriadau gan feddygon teulu, gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol a gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl. Ar hyn o bryd nid ydym yn derbyn pobl sy’n –atgyfeirio eu hunain.

Ffôn: 01267 674450

Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.

Tudalen we gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis Bwrdd Iechyd Hywel Dda


Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Ar hyn o bryd mae tîm Powys yn cefnogi pobl rhwng 18 a 35 oed sy’n dioddef symptomau cynnar o seicosis.

Derbynnir atgyfeiriadau gan feddygon teulu, gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol a gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl. Ar hyn o bryd nid ydym yn derbyn pobl sy’n –atgyfeirio eu hunain.

De Powys: 07929781794

Gogledd Powys: 07876714117

Cyfeiriad e-bost: EIPPowys@wales.nhs.uk

Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.

Tudalen we gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis y byrddau iechyd: Eich Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Lleol mewn Seicosis – Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (nhs.cymru)


Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae tîm Bae Abertawe ar hyn o bryd yn cefnogi pobl rhwng 14 a 25 oed sy’n dioddef symptomau cynnar o seicosis neu sydd wedi profi symptomau seicotig heb eu trin o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Rydym yn wasanaeth sy’n gweithio ochr yn ochr ag Adferiad i gefnogi pobl ifanc.

Derbynnir atgyfeiriadau gan feddygon teulu, gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol a gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl. Ar hyn o bryd nid ydym yn derbyn pobl sy’n –atgyfeirio eu hunain.

01639 862957

Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.Office hours are Monday to Friday 09:00 to 17:00