Dwi ddim yn gwybod ble fyddwn heb gefnogaeth tîm seicosis

Three people kayaking on a lake in red kayaks. THere are two woman closer to the camera, facing away with brown and blonde hair and they have their oars raised. There is a man in front of them also facing away and he is wearing a light shirt and dark cap.

Dwi wedi bod dan ofal Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (YGS) ers blwyddyn a hanner bellach. Mae wedi bod yn bleser cael cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a drefnwyd gan EIP gan gynnwys dringo cerrig mawr, gwersylla, caiacio a heicio.

Mae cwrdd â phobl eraill sydd â seicosis a rhannu straeon, a hefyd cael amser da ar y teithiau wedi bod yn anhygoel ac yn fuddiol iawn wrth i mi wella.

A young man with olive skin and dark hair and black glasses sits leaning over a desk as he makes notes in a book with a screen of text in front of him.

Roeddwn i’n barod i roi’r gorau iddi

Dwi ddim yn gwybod lle byddwn i nawr heb y cymorth mae EIP yn ei ddarparu. Er enghraifft, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gallu gorffen fy ngradd Meistr ar ôl yr episod, ond ar ôl llawer o ystyried a thrafod, llwyddais i gyflwyno’r traethawd hir fis diwethaf.

Roeddwn i’n barod i roi’r gorau iddi, ond ar ôl llawer o drafod gyda theulu a gweithwyr iechyd, penderfynais fynd amdani. Mae fy ngoruchwyliwr prosiect hyd yn oed wedi cysylltu â mi i drafod a hoffwn i wneud PhD, rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi meddwl fyddwn i’n gallu ei wneud.

A young white man with dark hair uses a weight machine at a gym. He wears a dark shirt and wrist cuffs and is pulling a bar down towards his chest.

Diolch i fy ngweithiwr cymorth cyfoedion, sy’n ffynhonnell wych o wybodaeth am ymarfer corff, dwi hefyd wedi dechrau mynd i’r gampfa yn rheolaidd eto. Mae wedi fy helpu gyda chodi pwysau a phaffio padiau, gan roi cyngor rhagorol a chymhelliant wrth ddod gyda mi i’r gampfa leol.

Dwi wir yn mwynhau ymarfer corff unwaith eto diolch i’w gefnogaeth, sy’n rhywbeth doeddwn i ddim yn meddwl y byddai’n bosibl o ystyried un o sgil effeithiau fy meddyginiaeth (anhedonia).

Mae cefnogaeth fy nheulu wedi bod yn hanfodol

Dwi’n byw gyda mam ar hyn o bryd, ac mae hi hefyd wedi bod yn hynod o gefnogol, ac wedi cyfathrebu’n helaeth ag EIP drwy gydol y broses. Boed hynny trwy fynd i grwpiau misol i aelodau’r teulu neu gael pum munud o sgwrs yn ystod ymweliad y nyrs neu’r gweithiwr cymorth cyfoedion, mae hi wedi cymryd pob cyfle i asesu lefel fy lles meddwl er mwyn deall pa mor bell y dylwn gael fy ngwthio.

A room busy with groups of people from a mix of ethnicities and ages. Closest to the camera an older white woman with a grey bob haircut speak to a young asian woman with long black hair and older black man with short cropped grey hair, moustache and glasses.

Mae hi wedi helpu i sicrhau fy mod i’n brysur ac yn weithgar yn academaidd a thrwy waith tŷ dydd i ddydd, rhywbeth nad oeddwn byth yn arfer ei wneud.

Mae gennym ni system hefyd i fy atal rhag defnyddio canabis ac alcohol yn ormodol, dau beth sy’n gwaethygu fy symptomau’n fawr a dwi’n hapus i ddweud fy mod i’n sobr ers bron i flwyddyn bellach, a bod fy symptomau’n ysgafn ac yn anaml iawn erbyn hyn.

Dwi ddim yn gwybod lle bydd bywyd yn mynd â fi yn y dyfodol, ond dwi’n llawer mwy parod i ddyfalbarhau a goresgyn heriau diolch i gefnogaeth barhaus fy nheulu, ond hefyd y tîm yn EIP.