Teulu, ffrind neu ofalwr

group of adults at home chatting around a laptop

Gall cefnogi rhywun rydych chi’n poeni amdano sy’n profi seicosis fod yn ofidus. Mae gwasanaethau EIP yn cefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr yn ogystal â’r sawl sy’n profi symptomau.

Cymorth EIP

Mae gofalwyr yn dweud wrthym fod siarad â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg iddyn nhw eu hunain yn ddefnyddiol. Ledled Cymru, gall gwasanaethau EIP gynnig ymyriadau a phecynnau cymorth i deuluoedd a gofalwyr sy’n cefnogi rhywun annwyl gyda seicosis. Mae sawl adnodd yn darparu gwybodaeth ddibynadwy sydd wedi’i chyd-ddylunio a’i chyd-gynhyrchu gyda theuluoedd a gofalwyr.

Mae papur sefyllfa addysg a sgiliau gofalwyr EIP ar gael yn yr adran adnoddau.

Hawliau gofalwyr

Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd statudol i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr. Bydd gan bob awdurdod lleol linell gymorth i ofalwyr ac mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd ganolfan gofalwyr. Byddant yn eich cynghori ar eich hawliau, gan gynnwys eich hawl i Asesiad Gofalwr, sy’n asesu eich anghenion yn eich rôl ofalu.

Cysylltiadau defnyddiol ADD LINKS

Mae Llinell Gymorth Gofalwyr Cenedlaethol y GIG yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr.

Mae Carers UK yn darparu gwybodaeth a chyngor am ofalu, ochr yn ochr â chefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ofalwyr. Mae Carers UK hefyd yn ymgyrchu dros ofalwyr ac yn dylanwadu ar lunwyr polisi, cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau, i’w helpu i wella bywydau gofalwyr.

Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gweithio i wella cefnogaeth, gwasanaethau a chydnabyddiaeth i unrhyw un sy’n byw gyda heriau gofalu, di-dâl, ar gyfer aelod o’r teulu neu ffrind sy’n sâl, yn fregus, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu ddibyniaeth.

Mae Rethink Mental Illness yn elusen sy’n credu bod bywyd gwell yn bosibl i filiynau o bobl y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt. Mae llawer o adnoddau a llyfrau gwaith ar gael i gefnogi gofalwyr.

Mae Adferiad yn darparu gwasanaethau ac ymgyrchu dros bobl a gofalwyr y mae salwch meddwl, defnyddio sylweddau, dibyniaeth, a chyflyrau cymhleth eraill yn effeithio arnynt.