Mae’n bwysig ystyried sut fydd bywyd ar ôl i’r gefnogaeth gan wasanaethau ddod i ben.
Wrth dderbyn gofal gan wasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis, treulir amser yn meddwl am yr hyn fydd yn helpu person i gadw’n iach a pharhau i gefnogi ei adferiad.
Bywyd ar ôl ymyrraeth gynnar mewn seicosis
Mae’r cyfnod y darperir gofal gan wasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis ynddo yn gyfyngedig, ac mae hyn yn golygu y bydd amser pan na fydd gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn cynnig cymorth i unigolyn mwyach. Ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau yng Nghymru, mae hyn yn golygu cyfnod o dair blynedd o’r pwynt y mae unigolyn yn dechrau cael gofal gan y gwasanaeth.
Cyn rhyddhau unigolyn, bydd y tîm ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn gweithio gydag unigolyn i’w gefnogi i ystyried sut fydd pethau ar ôl ei ryddhau a sut y gall y newid hwn deimlo. Bydd yn ddiweddglo sydd wedi’i gynllunio a’i reoli’n dda.
Treulir amser yn ystyried beth sydd wedi helpu a chaiff ‘cynllun llesiant’ cael ei ddatblygu gyda’r cydlynydd gofal. Bydd y sgwrs a’r cynllun lles hyn yn bersonol iawn i’r unigolyn ac yn cynnwys pethau fel yr hyn sy’n cadw person yn iach, beth yw’r arwyddion a’r symptomau i wylio amdanynt a allai awgrymu bod yr unigolyn yn cael trafferth gyda’i iechyd meddwl ac yn holl bwysig, beth i’w wneud, gyda phwy y dylai gysylltu a ble i fynd os oes ganddo unrhyw bryderon. Bydd y cynllun a’r sgyrsiau hefyd yn dibynnu llawer ar ble mae rhywun yn byw.
Nid yw adfer yn ymwneud â lleihau a rheoli symptomau yn unig, ond mae hefyd yn ymwneud â byw bywyd o ddydd i ddydd. Dyma’r broses o wella neu o fyw gyda symptomau ond bod â’r gallu i fyw bywyd ystyrlon a chadarnhaol. Mae hyn yn wahanol i bawb.
Cymerwch gip ar y dudalen straeon i ddarllen am wahanol brofiadau o ofal, triniaeth ac adfer.
Cadw’n iach ac ar y trywydd cywir
Mae angen ar bob un ohonom bethau yn ein bywydau i’n helpu i deimlo’n iach ac yn fodlon. Wrth dderbyn cefnogaeth gan wasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis, bydd y tîm yn helpu pob person i nodi beth fydd yn cefnogi eu hadferiad yn ystod eu hamser gyda’r tîm, ac ar ôl hynny hefyd.
Nod gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis yw darparu cyfleoedd i bobl sy’n helpu i gefnogi llesiant, archwilio sgiliau a dysgu newydd a’r cyfle i gysylltu ag eraill. Bydd hyn yn dibynnu ar yr unigolyn ond hefyd yn dibynnu ar ba wasanaethau sydd ar gael yn yr ardal leol. Rhoddir blaenoriaeth ar gael mynediad at gyfleoedd y gall unigolion fanteisio arnynt heb gymorth yn ystod eu bywyd ar ôl ymyrraeth gynnar mewn seicosis.
Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys grwpiau pêl-droed, ecotherapi, dosbarthiadau celf, grwpiau cymorth cymheiriaid, clwb ysgrifennu creadigol a choginio.
Mae’r amgylchedd y mae unigolyn yn byw ynddo, y cyfleoedd sydd ganddo, a’i ffordd o fyw i gyd yn dylanwadu ar ba mor dda y bydd adferiad unigolyn yn mynd rhagddo.
Mae’n hysbys bod y pethau canlynol yn bwysig wrth gynnal llesiant a lleihau’r tebygolrwydd o gael ail bwl o salwch:
- Lle saff a diogel i fyw
- Cael digon o arian i allu byw
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon – gall hyn fod yn yr ysgol, mewn coleg, yn y gwaith, drwy wirfoddoli neu mewn grwpiau cymunedol
- Cael hobïau a diddordebau sy’n rhoi mwynhad
- Perthnasoedd cefnogol ag eraill
Mae’r tîm ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn gweithio gyda phob unigolyn i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig iddo fel unigolyn a sicrhau bod yr amgylchedd y mae’n byw ynddo yn cefnogi bywyd cadarnhaol a boddhaol ar ôl ymyrraeth gynnar mewn seicosis.
Mae siawns bob amser y bydd symptomau’n dychwelyd, ond bydd deall y cyflwr, gwybod beth sy’n eich cadw’n iach, a chynnal llesiant corfforol a meddyliol personol yn helpu i leihau’r siawns y bydd symptomau’n ailymddangos ac effeithio’n negyddol ar fywyd o ddydd i ddydd.
Dewis
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer sefydliadau lleol a chenedlaethol a all eich helpu ar wefan Dewis.