Mae therapi antur mewn ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn disgrifio ystod o weithgareddau sy’n caniatáu ar gyfer archwilio a darganfod o fewn amgylchedd diogel gefnogir yn dda.
Mae llawer o fathau gwahanol o weithgareddau a defnyddir yr amgylchedd naturiol i hybu twf llesiant personol a chymdeithasol a’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd.
Mae pob gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis yng Nghymru yn cynnig rhaglen therapi antur fel rhan o’r gofal a’r driniaeth a gynigir ar gyfer yr unigolion y maent yn gweithio gyda nhw.
Mae’r gweithgareddau yn amrywio’n fawr, o daith gerdded yn y parc lleol i ddringo Pen-y-fan. Nid oes disgwyl eich bod yn gwneud unrhyw beth sy’n teimlo’n ormod, ond anogir her ac mae cyfranogwyr bob amser yn cael eu cefnogi’n dda gan staff ymyrraeth gynnar mewn seicosis ac arweinwyr gweithgareddau hyfforddedig.
Mae gan therapi antur lawer o fanteision, gan gynnwys:
- Dod â phobl at ei gilydd
- Treulio amser yn yr awyr agored
- Gwella iechyd corfforol
- Cynnig cyfle i roi cynnig ar weithgareddau newydd a chael profiadau newydd
- Dysgu amdanom ni ein hunain, ac am yr hyn y gallwn ei gyflawni
- Cyfle i ymarfer sgiliau
- Mwynhau!
Mae partneriaid o’r trydydd sector wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith o ddatblygu’r rhaglen ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn lleol ac yn genedlaethol ac, ynghyd â chynrychiolwyr ymyrraeth gynnar mewn seicosis maent yn gweithio’n agos fel rhan o grŵp ffrwd waith therapi antur ymyrraeth gynnar mewn seicosis sy’n canolbwyntio ar dystiolaeth o fuddion gweithgarwch wrth gefnogi adferiad ac ehangu’r cynnig ledled Cymru.
Ymhlith y sefydliadau sy’n gysylltiedig y mae gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a dibyniaeth Adferiad, y Bartneriaeth Awyr Agored, a Coed Lleol.
Enghreifftiau o’r dull therapi antur
Yn 2023 cymerodd sawl grŵp o bobl sy’n gweithio gyda gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis ledled Cymru ran mewn tri gweithgaredd cydgysylltiedig. Cafodd y profiadau eu dal ar ffilm ac mae’n dangos sut mae therapi antur yn cefnogi eu hadferiad.
Mae therapi antur yn helpu pobl yng Nghymru i wella ar ôl seicosis
Yn 2021, cydweithiodd naw gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis o bob rhan o’r DU i gymryd rhan mewn ‘Taith Darganfod’, gan hwylio o amgylch arfordir y DU. Roedd Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis Gogledd Cymru yn rhan o’r profiad epig hwn.