Mae’n bwysig iawn, cyn gynted ag y bydd rhywun yn dechrau profi symptomau cynnar seicosis, ei fod yn cael gofal a chymorth cyn gynted â phosibl. Drwy wneud hynny rydym yn gwybod y gellir lleihau effaith y salwch.
Mae’r gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis yn dîm arbenigol o ymarferwyr sy’n gweithio o fewn y gymuned ym mhob ardal yng Nghymru. Maent yn cynnig cefnogaeth benodol i bobl er mwyn eu galluogi i reoli seicosis a gwella ar ei ôl, ac maent yn gweithio gydag unigolion am uchafswm o dair blynedd o’r pwynt y cânt eu hatgyfeirio.
Gall seicosis effeithio ar rywun mewn sawl ffordd wahanol, ond bydd eich gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis lleol yn sicrhau eu bod yn gweithio’n agos gyda chi (a’ch teulu pan fo’n briodol) i ddeall eich anawsterau a’r ffordd orau o symud ymlaen.
Gall pob gwasanaeth ddarparu nifer o ymyriadau gwahanol gan ein bod yn deall bod pawb yn wahanol.
Y camau cyntaf
Unwaith y bydd tïm y gwasanaeth yn cael atgyfeiriad, byddant yn cysylltu â chi ac yn trefnu amser addas i gwrdd â chi i drafod y ffordd orau y gallant eich cefnogi chi. Byddant yn gofyn i chi am eich symptomau ond hefyd am yr hyn sy’n bwysig i chi o ran beth yw eich nodau ar gyfer y dyfodol a sut yr hoffech chi weithio gyda’r tîm. Gallwch ddewis eu gweld ar eich pen eich hun neu gyda ffrind neu aelod o’r teulu fel cefnogaeth.
Yn dilyn asesiad, caiff cydlynydd gofal ei ddyrannu i chi a fydd yn brif bwynt cyswllt i chi. Dyma’r unigolyn a fydd yn datblygu cynllun gofal a thriniaeth gyda chi yn ystod yr wythnosau cyntaf sy’n nodi’r cynllun a fydd yn cefnogi’ch adferiad.
Mae’r cynllun gofal a thriniaeth yn canolbwyntio ar bob agwedd ar fywyd gan gynnwys anghenion meddygol a seicolegol, diddordebau cymdeithasol, iechyd corfforol, eich helpu gyda’ch gwaith neu goleg, perthnasoedd â theulu a ffrindiau,y lle yr ydych chi’n byw, arian, cyffuriau, alcohol, yn ogystal ag unrhyw beth arall sy’n bwysig i chi.
Yn ystod eich amser gydag gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis, byddwch yn cwrdd â gwahanol weithwyr proffesiynol fel nyrsys iechyd meddwl, meddygon, seicolegwyr a therapyddion galwedigaethol. Byddant yn ‘dîm’ a fydd yn cefnogi eich adferiad. Bydd gweithgareddau gwahanol i gymryd rhan ynddynt.
Bydd popeth yn cael ei wneud ar eich cyflymder chi. Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau gofal, ymyriadau a rôl cydlynydd gofal ar gael ar y dudalen Gwasanaethau i’ch cefnogi.
Meddyginiaeth
Fel rhan o’ch gofal a’ch triniaeth, mae’n bosibl yr awgrymir eich bod yn cymryd meddyginiaeth ragnodedig. Bydd eich meddyg a’ch tîm ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn trafod yr opsiynau gyda chi. Mae’n anodd rhagweld a fydd person yn profi sgil-effeithiau, ond bydd eich tîm gofal yn trafod hyn drwodd â chi er mwyn eich helpu i wneud y penderfyniad sy’n iawn i chi. Bydd unrhyw sgil-effeithiau yn cael eu monitro.
Mae’n bwysig cofio bod llawer o feddyginiaethau yn cymryd ychydig o amser i ddechrau gweithio, ac nid yw pob meddyginiaeth yn gweithio i bob unigolyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan YoungMinds.
Ail` bwl o salwch ac adfer
Mae adfer ar ôl seicosis yn brofiad personol – bydd yn brofiad gwahanol i bawb, a bydd y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen i gadw rhywun yn iach hefyd yn wahanol i bob unigolyn.
Os bydd symptomau’n dechrau ailymddangos ar ôl cael eu rheoli’n dda am gyfnod, gall hyn fod yn arwydd o ail bwl o salwch.
Os bydd symptomau’n dychwelyd gall fod yn gyfnod dryslyd a heriol, a gall hefyd effeithio ar y teulu ac anwyliaid sy’n cefnogi’r unigolyn sydd â seicosis. Felly mae’n bwysig ceisio cyngor a chymorth cyn gynted ag y sylwir ar symptomau.
Bydd arwyddion ail bwl o salwch yn amrywio o berson i berson, ond mae rhai symptomau cyffredin yn cynnwys:
- Paranoia
- Anawsterau cysgu
- Gorbryder cynyddol
- Hwyliau’n gwaethygu
- Meddyliau dryslyd
Bydd y gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis bob amser yn gweithio gydag unigolion i nodi eu harwyddion personol o ail bwl o salwch ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu cynllun i’w reoli, os yw’n digwydd. Fel rhan o gynllun gofal a thriniaeth, treulir amser hefyd yn meddwl am yr hyn sy’n cadw rhywun yn iach, yr hyn sy’n cefnogi llesiant personol, a’r hyn sy’n gallu cael effaith negyddol ar gyflwr meddyliol unigolyn. Mae’n bwysig cofio y bydd cynllun hefyd yn cael ei ddatblygu sy’n canolbwyntio ar beth i’w wneud os bydd symptomau’n ailymddangos a/neu os bydd angen cymorth brys ar yr unigolyn (yr enw a roddir i hyn yw ‘cynlluniau argyfwng ac wrth gefn’).
Drwy gydol yr amser y mae unigolyn yn ei dreulio gyda gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis caiff sgyrsiau eu cynnal a chynlluniau eu gwneud ynghylch sut fydd bywyd yr unigolyn ar ôl i’r gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis ddod i ben.
Darllenwch fwy am gyfnodau seicosis.
Ffaith neu ffuglen?
Mae yna nifer o chwedlau a chamsyniadau am seicosis, am beth ydyw a beth sy’n ei achosi. Er mwyn helpu i wahanu ffaith oddi wrth ffuglen, rydym wedi rhannu nifer o gamsyniadau cyffredin ar ein tudalen chwalu mythau.