Gwasanaethau i’ch cefnogi

A group photo of two rows of people smiling at the camera in front of banners that read Early Intervention in Psychosis

Llun: Cyfarfu staff o wasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis ledled Cymru â Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant (yn lansiad y papur sefyllfa ‘Buddsoddi yn y Genhedlaeth Nesaf’ ar gyfer Cymru, ym mis Hydref 2022.

Gwasanaethau i’ch cefnogi

Os ydych yn byw yng Nghymru ac wedi profi seicosis cewch eich cefnogi gan y gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis.

Mae gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn canolbwyntio ar ganfod symptomau yn gynnar a chefnogi pobl i adferar ôl seicosis, gan weithio’n benodol gyda’r rhai sy’n profi eu digwyddiad cyntaf o seicosis neu sydd o fewn y cyfnod tair blynedd critigol o gael diagnosis.

Mae tystiolaeth yn dweud wrthym mai’r hiraf y caiff symptomau eu gadael heb eu trin, y mwyaf yw’r effaith ar fywyd yr unigolyn a bywydau’r rhai o’i gwmpas.

Gall ymyrryd yn gyflym yn ystod y cyfnod critigol hwn wella adferiad a lleihau’r tebygolrwydd y bydd symptomau’n dychwelyd, a elwir yn ailwaelu (cael ail bwl o salwch).

Nod gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis yw darparu ymyriadau effeithiol o fewn y cyfnod critigol hwn.

Mae saith gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis yng Nghymru, un ym mhob bwrdd iechyd.

Mae’r gwasanaethau yn cynnwys tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy’n gweithio gydag unigolion a’u teuluoedd i ddeall eu profiadau personol, cefnogi gwelliannau o ran lleihau symptomau, a hybu llesiant emosiynol; lleihau trallod, cynyddu hyder, ac ymdopi, a chael mynediad at adnoddau cymdeithasol.

Yn gyffredinol, mae timau’n gweithio gyda phobl am hyd at dair blynedd.

Mae staff gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn gweithio gydag unigolion i ddatblygu cynlluniau gofal a thriniaeth gan osod nodau sydd wedi’u personoleiddio ac sy’n realistig er mwyn cefnogi’r broses adfer. Mae’r dull yn cynnwys:

  • Ymweliadau yn y gymuned
  • Mewnbwn meddygol, gan gynnwys rhagnodi ac adolygu meddyginiaeth
  • Cefnogaeth i ofalwyr /teuluoedd fel Therapi Teuluol Ymddygiadol
  • Ymyriadau seicolegol
  • Monitro ac ymyrraeth iechyd corfforol

Mae’r dull ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn hyrwyddo ymgysylltiad cymunedol ac yn cefnogi unigolion i ddatblygu dealltwriaeth well o’u profiadau a hyrwyddo ansawdd bywyd. Mae rhai gwasanaethau yng Nghymru wedi partneru â sefydliadau yn y trydydd sector i ddarparu ystod o opsiynau cymorth.

Mae enghreifftiau o waith penodol y gall gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis ei ddarparu i’r unigolyn sy’n profi seicosis yn cynnwys:

  • Rheoli symptomau
  • Ymyriadau meddyginiaeth
  • Rheoli gorbryder
  • Gwaith ynglŷn ag ail byliau o salwch ac adfer
    Darllenwch am y camau cyntaf y byddwch yn eu cymryd ar ôl i chi gysylltu â’ch gwasanaeth lleol.
  • Cyfeirio a chefnogaeth at gyflogaeth neu addysg
  • Ymyriadau iechyd corfforol
    Mynediad at ymyriadau iechyd corfforol wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigolion.
  • Magu hyder
  • Mynediad at gymorth gan gymheiriaid
    Mae cymar fentoriaid yn bobl sydd â phrofiad bywyd o wynebu heriau iechyd meddwl eu hunain. Maent yn defnyddio’u profiadau a’u hempathi i gefnogi eraill a’u teuluoedd sy’n derbyn gofal gan wasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis

Mae’r broses o adfer yn wahanol i bawb.

Nod gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis yw gweithio ochr yn ochr â phobl i hyrwyddo gwelliannau yn eu hiechyd meddwl ac ansawdd eu bywyd.