Seicosis Cymru

A group of young people sitting down over looking a view from up high against a cloudy sky

Gall seicosis fod yn brofiad anhygoel o ofidus.

Mae gwefan Seicosis Cymru wedi’i chreu ar gyfer pobl 14 i 35 oed yng Nghymru sydd wedi profi seicosis.

Dysgwch fwy am seicosis a’r gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis yng Nghymru sydd yma i’ch cefnogi gyda seicosis.

Mae gennym hefyd wybodaeth i deuluoedd, ffrindiau, a gofalwyr sydd am gefnogi eu hanwylyd, yn ogystal â gwybodaeth i  staff gofal iechyd ac ymarferwyr eraill sy’n chwilio am offer ac adnoddau.

Gwybodaeth ac arweiniad i bobl sydd wedi profi seicosis.

Dysgwch fwy am seicosis i gefnogi rhywun rydych chi’n ei adnabod y mae seicosis  wedi cael effaith arno.

Gwybodaeth ac adnoddau i ymarferwyr yng Nghymru.


Beth yw seicosis?

Mae seicosis yn broblem iechyd meddwl sy’n achosi i bobl brofi neu ddehongli pethau’n wahanol i’r rhai o’u cwmpas. Cyfeirir ato weithiau fel ‘colli cysylltiad’ â realiti.

Yn aml cyfeirir at brofi symptomau seicosis fel cael digwyddiad seicotig. Efallai y bydd unigolyn yn ei brofi unwaith, yn cael digwyddiadau dro ar ôl tro, neu’n byw gydag ef y rhan fwyaf o’r amser.

Mae profiad pawb o seicosis yn wahanol ond mae rhai arwyddion a symptomau a all fod yn debyg.

Y mathau mwyaf cyffredin o brofiadau seicotig yw rhithweledigaethau, credoau anarferol a meddwl a siarad mewn ffordd anhrefnus. Darllenwch fwy ar ein tudalen Deall Seicosis.

Mae’n bwysig cofio bod modd trin seicosis ond gall yr arwyddion cynnar ohono fod yn annelwig a braidd y byddai rhywun yn sylwi arnynt. Os nad yw rhywbeth yn ymddangos yn iawn yna siaradwch â’ch meddyg teulu neu wasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis lleol.

Drwy gael cymorth yn gynnar mae cleifion yn adfer yn gyflymach ac mae’r cyflwr yn cael llai o effaith arnynt dros yr hirdymor.

Mae llawer o bobl yn mynd ymlaen i wella’n llwyr.